![]()

Mae
fy ngwreiddiau yn ddyfn yn nhirlun amaethyddol a chwareli Llanfairfechan, fy mro genedigol.
Mae'r dylanwadau cynnar hynny yr un mor fyw yn fy
ngwaith heddiw ac erioed. Cefais gefnogaeth i'r rhan
gan fy Rhieni i ddilyn cwrs Coleg Celf yn y 60au. 'Roedd yr
hyfforddiant yn amrywiol ac amserol ond 'rydw i wedi teimlo
erioed nad oedd yr hyfforddiant hwnnw yn ddigonol ar gyfer datblygu'n dirlunydd.
Yn y cyfamser, tra bum i'n dysgu Celf
am flynyddoedd nid oedd y cyfle yno i greu tirluniau mawr. Ond yn ddiweddar
cefais lwyddiant sylweddol ar ôl ymddeol a mynd ati i werthu fy nghalendrau, mae fy lluniau dyfrlliw a'r printiau
ym mhedwar ban y byd. Mae'r prynwyr hynny yn son yn aml bod fy luniau yn
creu hiraeth mawr ynddyn nhw am ei cynefin. Am dri deg un o flynyddoedd bellach 'rydw i wedi byw ar lethrau'r Berwyn, ond mae'r dynfa tuag at
bryniau fy mebyd, fu'n her ac ysbrydoliaeth imi erioed mor gryf ac yr oedd
ers talwm. Mae agosrwydd y mor a'r mynyddoedd at ei gilydd yn yr ardaloedd
hyn yn rhoi cyfle i ddehongli pob math o olygfeydd mewn llun. Yn wir mae'r
pethau sy'n fy ysbrydoli i baentio i gyd ar gael o fewn ardaloedd Ynys Môn
ac Eryri. Fyddai byth yn syrffedu ar brydferthwch eithradol y lle - y modd
mae'r tirlun yn newid yn barhaol, y rhosydd gwylltion, y dyffrynoedd llydan,
y waliau llechi a'r hen furiau cerrig ac aneddau. Gwaith
traddodiadol ydi fy ngwaith ar sawl cyfrif, ac fel nifer o bobl eraill
byddai'n ymdrechu i ail-greu arbenigrwydd y gologfeydd hynny pob tro. Dyna
sut y byddai'n parhau yn fy ngwaith o hyn ymlaen hefyd, yn enwedig wrth imi
droi fy llaw at baentio mewn olew ac acrilig ar drothwy cyfnod mwy cadarn ac
arbrofol yn fy hanes fel arlunydd.
'Rwy'n croesawu ymholiadau am gomisiwnynau'.
.
Keith Morgan, Allt-y-Celyn, Glyndyfrdwy, Corwen, Sir Ddinbych. LL21 9HP
Ff
ôn: 01490 430 353ebost: keith.morgan14@btinternet.com
Commissions
www.keith-morgan.com